Back to Listing

(Anturiaethau’r Nadolig) yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe!

Ar ddydd Llun 27ain Tachwedd, cafodd Alex Lloyd y Rheolwr Marchnata, Sam Al-khanchi, Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm Abertawe ac Olivia Stemmer, Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol y pleser o fynychu’r sioe ‘A Christmastime Adventure’ (Anturiaethau’r Nadolig) yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe.

Cafodd y sioe ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Keith Ivett a Stevie-Ann Fraser. Maent yn cynnig sesiwn ‘Cyflwyniad i Gelfyddydau Perfformio’ bob dydd Llun, drwy gefnogaeth gan Addysg Oedolion Cymru. Mae gan yr unigolion sy’n mynychu’r sesiynau – cyfanswm o 23 o ddynion a menywod rhwng 18 a 70 oed, ystod o anableddau dysgu neu gorfforol. Cefnogir y grŵp hefyd gan Jamiee, merch Keith a Stevie-Ann ynghyd a gwirfoddolwr.

Mae’r dysgwyr Celfyddydau Perfformio fel arfer yn cynnal 2 berfformiad bob blwyddyn. Mae Sam, Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm Abertawe wedi bod yn ddigon ffodus i weld sawl un ohonynt. Mae’n dweud, “Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at y sioe. Maent yn ddi-fael yn gwneud i mi wenu ac mae gweld y dysgwyr yn mwynhau eu hunain gymaint, yn hollol wych.”

Mae’r sioe yn adrodd stori Nadoligaidd am un noson dyngedfennol pan fydd sled Siôn Corn yn chwalu yng Nghymru!!! Mae corachod Siôn Corn yn mynd ar daith i ddod o hyd iddo, ac felly mae popeth yn dechrau …

Roedd y dathliad hyfryd yma yn cynnwys caneuon Nadolig clasurol ac ymddangosiad arbennig gan y dyn mawr ei hun!!!

Dywedodd y Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol, Olivia Stemmer, “Roedd yn anhygoel gweld y gymuned mae Keith a Stevie wedi gallu ei greu gyda’u dysgwyr a faint maent yn poeni am bob dysgwr. Roedd y sioe yn ffantastig, ac yn ffordd wych o ddechrau tymor yr ŵyl!”

Meddai’r Rheolwr Marchnata Alex, “Mae’r Nadolig yn amser mor hudolus o’r flwyddyn ac fe greodd Grŵp Drama AOC Pontardawe’r hud yma ar lwyfan Canolfan Celfyddydau Pontardawe gyda’u sioe Nadoligaidd flynyddol. Daeth yr holl berfformwyr â chymaint o egni a brwdfrydedd drwy actio, canu, comedi a dawnsio. Aethpwyd a phawb ar antur o Borthcawl i ynys ‘Rhewllyd’ yng Ngwlad yr Iâ i chwilio am Siôn Corn; cafwyd cyfle i gwrdd â gwesteion arbennig ar hyd y daith gan gynnwys Frank Sinatra, Barbie, Elsa a thri Elvis. Da iawn i bawb ar y llwyfan a thu ôl i’r llenni. Cafwyd perfformiad arbennig ac amser gwych gan bawb.”

Dywedodd y tiwtoriaid Keith a Stevie Ann, “Rydym mor falch o’r holl gast a gymrodd ran yn y Cynhyrchiad. Dangosant sgiliau dawnsio, canu a chomedi, ond yn bwysicaf oll cafwyd cyd weithio a chyd gefnogi  gyda charedigrwydd a chyfeillgarwch. Buont yn gwrando ar y cyfarwyddiadau a roddwyd iddynt, a pherfformio gyda brwdfrydedd. Hoffem ddiolch i’r holl ofalwyr, rhieni a ffrindiau hefyd sydd bob amser yn ein cefnogi, oddi ar ac ar y llwyfan, drwy ddarparu gwisgoedd, propiau a golygfeydd. Diolch enfawr i AOC am wneud y cynyrchiadau hyn yn bosib, yn enwedig y gred a roddir i ni gan Sam, Olivia a phawb yng nghangen Abertawe. Beth mae’r gynulleidfa yn ei weld ar y llwyfan yw “ymdrech tîm” go iawn. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r un nesaf yn barod!”

Hoffem longyfarch ein dysgwyr anhygoel ac edrychwn ymlaen at weld beth fyddant yn ei wneud nesaf! 

Cliciwch yma i weld lluniau a fideos o’r digwyddiad!

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.