Telerau ac Amodau

Cyflwyniad

Mae’r telerau defnyddio hyn yn llywodraethu eich defnydd chi o’n gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau defnyddio hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r telerau defnyddio hyn neu unrhyw ran o’r telerau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

Trwydded i ddefnyddio’r wefan

Ni chewch, heb ganiatâd ymlaen llaw:

  • Ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (gan gynnwys ailgyhoeddi ar wefan arall); gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’r wefan;
  • Dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
  • Ailgynhyrchu, dyblygu, copïo neu fel arall ecsbloetio ddeunydd ar ein gwefan at ddiben masnachol;
  • Golygu neu fel arall addasu unrhyw ddeunydd ar y wefan; neu ailddosbarthu deunydd o’r wefan hon [ac eithrio cynnwys sydd ar gael yn benodol ac yn echblyg i’w ailddosbarthu (fel ein cylchlythyr).

Oni nodir yn wahanol, ni neu ein trwyddedwyr sy’n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol yn y wefan a’r deunydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn. Gallwch weld, lawrlwytho at ddibenion storio’n unig, ac argraffu tudalennau o’r wefan at eich defnydd personol eich hun, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn rhannau eraill o’r telerau defnyddio hyn. Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol: Pan fydd cynnwys ar gael yn benodol i’w ailddosbarthu, dim ond o fewn eich sefydliad y gellir ei ailddosbarthu

DEFNYDD DERBYNIOL

Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd sy’n achosi, neu a allai achosi, niwed i’r wefan neu amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; neu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon, yn erbyn y gyfraith, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn perthynas ag unrhyw ddiben neu weithgaredd anghyfreithlon, yn erbyn y gyfraith, twyllodrus neu niweidiol. Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, lletya, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi na dosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu’n gysylltiedig ag) unrhyw ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, ceffyl Troea, mwydyn, cofnodwr trawiad bysell, cit gwraidd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall. Rhaid i chi beidio â chynnal unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, crafu, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) ar ein gwefan neu mewn perthynas â hi heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol. Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i drosglwyddo neu anfon cyfathrebiadau masnachol digymell. Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion yn ymwneud â marchnata heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.

MYNEDIAD CYFYNGEDIG

Mae mynediad i rai rhannau o’n gwefan yn gyfyngedig. Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i rannau eraill o’n gwefan, neu yn wir ein gwefan gyfan, yn ôl ein disgresiwn. Os byddwn yn darparu ID defnyddiwr a chyfrinair i chi i’ch galluogi i gyrchu rhannau cyfyngedig o’n gwefan neu gynnwys neu wasanaethau eraill, rhaid i chi sicrhau bod y ID defnyddiwr a’r cyfrinair hwnnw’n cael eu cadw’n gyfrinachol. Gallwn analluogi eich ID defnyddiwr a chyfrinair yn ôl ein disgresiwn llwyr heb rybudd nac esboniad.

CYNNWYS A GYNHYRCHIR GAN DDEFNYDDWYR

Yn y telerau defnyddio hyn, mae “eich cynnwys defnyddiwr” yn golygu deunydd (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, testun, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo a deunydd clyweled) yr ydych yn ei gyflwyno i’n gwefan, at ba bynnag ddiben. Rydych yn rhoi trwydded fyd-eang, ddiwrthdro, anghyfyngedig, rhydd rhag breindal i ni ddefnyddio, ailgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys defnyddiwr mewn unrhyw gyfrwng presennol neu yn y dyfodol. Rydych hefyd yn rhoi’r hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau hyn, a’r hawl i ddwyn achos am dorri’r hawliau hyn. Ni ddylai eich cynnwys defnyddiwr fod yn anghyfreithlon nac yn erbyn y gyfraith, ni ddylai dorri hawliau cyfreithiol unrhyw drydydd parti, ac ni ddylai fod modd iddo arwain at gamau cyfreithiol boed yn eich erbyn chi neu yn ein herbyn ni neu drydydd parti (ym mhob achos o dan unrhyw gyfraith berthnasol). Rhaid i chi beidio â chyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr i’r wefan sy’n destun, neu sydd erioed wedi bod yn destun, unrhyw achos cyfreithiol a fygythiwyd neu wirioneddol neu gŵyn arall debyg. Rydym yn cadw’r hawl i olygu neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir i’n gwefan, neu sydd wedi’i storio ar ein gweinyddion, neu a letyir neu a gyhoeddir ar ein gwefan. Er gwaethaf ein hawliau o dan y telerau defnyddio hyn mewn perthynas â chynnwys defnyddwyr, nid ydym yn ymrwymo i fonitro cyflwyniad cynnwys o’r fath i’n gwefan, nac i gyhoeddi cynnwys o’r fath ar ein gwefan.

GWARANTAU CYFYNGEDIG

Er y gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, nid ydym yn gwarantu ei chyflawnder na’i chywirdeb; nid ydym ychwaith yn ymrwymo i sicrhau bod y wefan yn parhau i fod ar gael na bod y deunydd ar y wefan yn cael ei gadw’n gyfredol. I’r graddau eithaf a ganiateir gan gyfraith berthnasol rydym yn eithrio pob cynrychiolaeth, gwarant ac amod sy’n ymwneud â’r wefan hon a’r defnydd o’r wefan hon (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, unrhyw warantau a awgrymir gan y gyfraith o ansawdd boddhaol, addasrwydd at y diben a/neu’r defnydd o gofal a sgil rhesymol).

CYFYNGIADAU ATEBOLRWYDD

  • I’r graddau bod y wefan a’r wybodaeth a’r gwasanaethau ar y wefan yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw natur;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol, anuniongyrchol neu arbennig;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled o ran elw, incwm, refeniw, arbedion a ragwelir, contractau, busnes, ewyllys da, enw da, data, neu wybodaeth;
  • Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol;
  • Bydd ein huchafswm atebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau cysylltiedig yn cael ei gyfyngu i swm rhesymol.

Ni fydd unrhyw beth yn y telerau defnyddio hyn (nac unrhyw le arall ar ein gwefan) yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am dwyll, marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod, neu ar unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan gyfraith berthnasol. Yn amodol ar hyn, bydd ein hatebolrwydd i chi mewn perthynas â defnyddio ein gwefan neu o dan neu mewn perthynas â’r telerau defnyddio hyn, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, yn gyfyngedig fel a ganlyn:

INDEMNIAD

Trwy hyn rydych yn ein hindemnio ac yn ymrwymo i’n cadw ni wedi’n hindemnio rhag unrhyw golledion, iawndal, costau, rhwymedigaethau a threuliau (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, treuliau cyfreithiol ac unrhyw symiau a delir gennym ni i drydydd parti i setlo hawliad neu anghydfod yn unol â chyngor gan ein cynghorwyr cyfreithiol) a achosir neu a ddioddefir gennym ni o ganlyniad i unrhyw doriad gennych chi o unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn, neu sy’n deillio o unrhyw honiad eich bod chi wedi torri unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.

Torri’r telerau defnyddio hyn Heb ragfarn i’n hawliau eraill o dan y telerau defnyddio hyn, os byddwch yn torri’r telerau defnyddio hyn mewn unrhyw ffordd, gallwn gymryd unrhyw gamau sy’n briodol yn ein barn ni i ymdrin â’r toriad, gan gynnwys gohirio eich mynediad i’r wefan, eich gwahardd rhag cyrchu’r wefan, rhwystro cyfrifiaduron sy’n defnyddio’ch cyfeiriad IP rhag cyrchu’r wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd i ofyn iddynt rwystro’ch mynediad i’r wefan a/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.

AMRYWIO

Mae’n bosib y byddwn yn diwygio’r telerau defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Bydd telerau defnyddio diwygiedig yn berthnasol i’r defnydd o’n gwefan o ddyddiad cyhoeddi’r telerau defnyddio diwygiedig ar ein gwefan. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn cyfredol.

ASEINIO

Gallwn drosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall â’n hawliau a/neu rwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn heb eich hysbysu chi na chael eich caniatâd. Ni chewch drosglwyddo, is-gontractio nac ymdrin fel arall â’ch hawliau a/neu rwymedigaethau o dan y telerau defnyddio hyn.

TORADWYEDD

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod darpariaeth yn y telerau defnyddio hyn yn anghyfreithlon a/neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau mewn grym. Pe bai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn gyfreithlon neu’n orfodadwy pe bai rhan ohoni’n cael ei dileu, ystyrir bod y rhan honno wedi’i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau mewn grym.

EITHRIO HAWLIAU TRYDYDD PARTI

Mae’r telerau defnyddio hyn er eich budd chi a’n budd ni, ac ni fwriedir iddynt fod o fudd i unrhyw drydydd parti na chael eu gorfodi gan unrhyw drydydd parti. Nid yw arfer ein hawliau ni a’ch hawliau chi mewn perthynas â’r telerau defnyddio hyn yn ddarostyngedig i ganiatâd gan unrhyw drydydd parti.

CYTUNDEB CYFAN

Mae’r telerau defnyddio hyn ynghyd â’n polisi preifatrwydd yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd chi o’n gwefan, ac maent yn disodli’r holl gytundebau blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd chi o’r wefan hon.

CYFRAITH AC AWDURDODAETH

Caiff y telerau defnyddio hyn eu llywodraethu gan ddeddfau Cymru a Lloegr a’u dehongli’n unol â hwy, a bydd unrhyw anghydfod sy’n gysylltiedig â’r telerau defnyddio hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr.

EIN MANYLION

Gallwch gysylltu â ni drwy unrhyw un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar waelod yr hafan.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.