Back to Listing

Adborth cadarnhaol ynghylch ein cyrsiau Celf a Chrefft!

Rydym wedi bod yn derbyn llawer o adborth cadarnhaol gan ein dysgwyr sydd wedi mynychu cyrsiau Celf a Chrefft ym Mhowys, gyda’r tiwtor Deborah Jenkins-Doyle, felly fe wnaethom ni benderfynu rhannu ychydig o wybodaeth am Deborah a’r gwaith gwych mae hi’n ei wneud.. . .

Ar ôl cwblhau ei TAR yn 1996, treuliodd Deborah, sy’n diwtor profiadol iawn, nifer o flynyddoedd yn addysgu Teithio a Thwristiaeth ym maes Addysg Bellach. Bu’n byw yn Awstralia a De-ddwyrain Asia cyn dychwelyd, a chwblhau ei chymhwyster TESOL. Ar ôl cyfarfod â’i gŵr, a oedd yn y fyddin, treuliodd nifer o flynyddoedd yn byw dramor ac yn addysgu EFL yn yr Almaen, cyn addysgu Celf a Chrefft.

Meddai’r tiwtor, Deborah Jenkins-Doyle, “Ar ôl dychwelyd i’r DU, dechreuais fusnes Celf a Chrefft bach o’r enw ‘Snobby Hobby’, lle gwnes amrywiaeth eang o gynhyrchion a chael fy moddi’n fuan â chomisiynau. Ddechrau’r llynedd, dechreuais weithio i Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, yn addysgu ESOL yn Llandrindod, ac rwyf wrth fy modd â hynny! Yna, fis Hydref diwethaf, dechreuais addysgu Celf a Chrefft hefyd. Maent yn ddau faes rwyf i’n hynod o frwdfrydig yn eu cylch!”

Mae Deborah yn dysgu tri chwrs ar wahân gyda ni yn y Drenewydd a’r Trallwng, ar gyfer ein sefydliad partner – Ponthafren. Mae’r cyrsiau chwe wythnos hyn yn cwmpasu amrywiaeth o Gelf a Chrefft bob wythnos. Yn y gwersi hyn, gall ein dysgwyr ddysgu a datblygu sgiliau newydd i y gallant barhau â hwy gartref a datblygu gweithiau celf ymhellach. Mae pwyslais enfawr yn y gwersi hyn ar hybu iechyd meddwl cadarnhaol, ac annog dysgwyr a fyddai fel arall yn gweld pobl eraill yn anaml, neu hyd yn oed yn gadael eu cartrefi, i fwynhau manteision gwneud gwaith gwych ac ymgysylltu ag eraill. Mae gan bob grŵp amrywiaeth o ddysgwyr o bob cefndir, oedran a gallu.

Meddai Deborah, “Rydyn ni oll yn cael amser gwych yn ystod y sesiynau ac mae’r dysgwyr yn wir yn gwneud ffrindiau newydd sy’n hyfryd i’w weld! I unrhyw un sydd â diddordeb mewn Celf a Chrefft, boed hynny’n baentio, macramé, gwneud blodau papur, gwaith clai a gwaith mosaig i enwi dim ond rhai, dewch draw i roi cynnig arni! Nid oes ots os nad ydych erioed wedi gwneud unrhyw beth creadigol o’r blaen – dyma’ch cyfle i roi cynnig arni, gyda chefnogaeth eich tiwtor a’ch cymheiriaid. Byddwch yn cyfarfod â phobl newydd, yn gwneud ffrindiau newydd, ac yn mynd â phrosiect gwahanol adref bob wythnos, sy’n ymdeimlad enfawr o lwyddo!

Mae’r dysgwyr bob amser yn frwdfrydig am y crefftau y maent yn eu dysgu. Roedd y crefftau olaf a wnaethom, sef blodau papur ar Ddydd San Ffolant, yn arbennig o boblogaidd, a phawb wedi mwynhau eu creu! Ar sawl achlysur, mae dysgwyr wedi dweud wrthyf, “Dydw i ddim yn greadigol” ac rydw i bob amser wedi ateb, “Mae gan bawb elfen greadigol – Mae angen i ni ei annog weithiau!”

Buaswn yn dweud wrth un sydd â diddordeb mewn ymuno â’n gwersi Celf a Chrefft: dewch i mewn i gwrdd â ni – rydym yn griw cyfeillgar iawn! Rydyn ni fel un teulu mawr, a bydd dysgwyr yn aml yn dweud wrthyf eu bod wir yn edrych ymlaen at y dosbarthiadau. Mae rhai dysgwyr yn dioddef gan orbryder, ond ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad, bydd eu pryderon yn diflannu. Byddwn ni’n treulio amser yn cyfranogi mewn prosiect crefft gan sgwrsio a chwerthin llawer iawn ar yr un pryd. Mae gan ein gwersi awyrgylch hamddenol, ac rydym ni’n croesawu pawb. Mae treulio amser gyda chyd-grefftwyr yn cael effaith mor gadarnhaol ar iechyd meddwl. Mae’n wych gweld y dysgwyr yn magu mwy o hyder!

Er bod pob un o’r cyrsiau Celf a Chrefft mewn blociau o 6 wythnos, bydd ein dysgwyr yn tueddu i gofrestru ar y bloc nesaf wedyn! Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi’r hyder i ddysgwyr ymgymryd â phrosiectau, a chofrestru ar gyrsiau nad ydynt efallai wedi’u gwneud o’r blaen.”

 

Hoffem longyfarch Deborah ar ei hymroddiad i greu amgylchedd hwyliog, diddorol a chefnogol i alluogi ein dysgwyr i fod yn greadigol, a dysgu sgiliau newydd! Rydyn ni mor hapus ein bod ni wedi cael adborth mor wych gan ein dysgwyr ac yn edrych ymlaen at weld beth fyddant yn ei greu nesaf yn nosbarthiadau Deborah!

I ddarllen rhagor am ein cyrsiau Celf, Dylunio a’r Cyfryngau, cliciwch yma.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.