Back to Listing

Celf ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhlas Dolerw, Y Drenewydd

Y dosbarth a’i hanes:

Deilliodd y dosbarthiadau allan o ddarpariaeth gyda phartner sef Cymdeithas Ponthafren, canolfan galw heibio gymunedol yn y Drenewydd ar gyfer rhai yr effeithir arnynt gan faterion iechyd meddwl neu arwahanu cymdeithasol. Mae’r dosbarth hefyd wedi cyfuno dosbarthiadau cymunedol blaenorol ac mae’n cael ei redeg gan yr artist a’r athrawes, Esther Thorpe. Mae ein dysgwyr ar hyn o bryd yn gweithio tuag at arddangosfa o’u gwaith.

Mae’r dosbarth yn cynnig ystod o sgiliau a phrosesau cyfryngol celf, gan gynnwys lluniadu, peintio dyfrlliw ac acrylig, pen a golchiad, technegau gwneud printiau, cyfryngau cymysg, cerflunwaith papier-mâché a thecstilau creadigol. Mae’r dosbarth yn croesawu myfyrwyr sydd eisiau dysgu a chael hwyl a theimlo’r budd therapiwtig o wneud celf. Estynnir croeso cynnes i ddechreuwyr neu artistiaid mwy profiadol.

[Goleudy, print colagraff gan Mary B.]

Gwaith ein dysgwyr:

Aderyn papier-mâché wedi’i wneud gan Dena.

Dywed Elly, sydd ar hyn o bryd yn archwilio techneg dyfrlliw i greu paentiadau o adar neu dirwedd, ei fod yn

 “Gwrs hwyliog lle cewch ddysgu beth sydd o ddiddordeb i chi, ac yn yr un modd, dysgu o’r hyn y mae eraill yn ei wneud”. EP

[Gwelir uchod Elly yn gweithio ar baentiad dyfrlliw o’r Nico. Chwith uchod: Print leino o grëyr glas wedi’i wneud gan Elly P.]

Mae Sue, sydd wedi ymddeol, ac sydd wedi mynychu dosbarthiadau yma ac acw ers 2015, yn datblygu technegau mewn lluniadu a dyfrlliw, gan drawsnewid ei ffotograffiaeth o dirwedd a bywyd llonydd gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a mwy arbrofol. “Rwyf wedi dysgu … pa mor bwysig yw cysylltu ag eraill, sy’n rhannu’r un diddordebau yn gyffredinol, i frwydro yn erbyn teimladau o arwahanrwydd y mae gofalu yn gosod arnoch. Mae’r sesiynau wedi bod mor bwysig i fy iechyd meddwl ac emosiynol. Gwerthfawrogir y dosbarthiadau fel ‘Dihangfa’, a’r cyfle i ganolbwyntio ar fy hoff beth – creu celf!”. SJ

[Uchod ac isod: ymagweddau gwahanol ar gyfansoddiad bywyd llonydd gan Sue J.]

[Uwchben chwith, Dena ac uchod dde, tirwedd collage gelli print Dena.]

Dywedodd Dena, sy’n gyn technegydd deintyddol, ei bod wedi gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau megis peintio, collage, tecstilau a gwneud printiau, “Rydym yn cael ein haddysgu llawer, yn cael ein goruchwylio ac yn cael hyfforddiant yn ôl yr angen a theimlaf ei fod yn lle diogel a hapus i fod yn greadigol. Mae hi’n parhau, “Rwy’n ddiolchgar iawn i gael y dosbarth yma. Mae wedi bod yn ganolbwynt cadarnhaol ac yn fy annog i barhau i ddysgu ac ymlacio mwy. Mae Esther yn athrawes wybodus a thalentog iawn ac mae fel consuriwr, rhywsut yn llwyddo i’n cadw ni gyd i symud ymlaen yn ein gwaith fel unigolion”. MM

[Uchod: Tirlun dyfrlliw gan Ann G. Dde: Ann G yn y dosbarth.]

Mae Ann, sy’n gyn-athrawes, wedi ymuno gyda’r dosbarth llynedd ac nid oedd erioed wedi ceisio peintio dyfrlliw, yn dweud mai’r peth allweddol mae wedi’i ddysgu yw “Edrych ar fy amgylchfyd yn gliriach gyda golwg ar ail-greu beth welaf yn fy ngwaith celf”. AG

Annie yn gweithio gyda thechnegau peintio acrylig i edrych ar dirwedd haniaethol a grym mynegiannol lliw a motiff. “Rwy’n mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd a bob amser yn teimlo’n ddyrchafedig pan fyddaf yn mynd adref o’r awyrgylch cadarnhaol yn y dosbarth…. Mae’r dosbarth yn rhan bwysig o fy wythnos, lle gallaf adael fynd a bod fel fi fy hun mewn amgylchedd anfeirniadol”. AH

[Uchod ar y chwith, tirwedd haniaethol Annie, yn archwilio motiffau ailadroddus, defnyddio stensiliau a haenau. Dde: Annie yn y gwaith.]

[Brenda a Chris]

Mae Chris, cyn-nyrs, yn disgrifio’r dosbarth fel un sydd ag “awyrgylch hamddenol, cymdeithasol. Athrawes ragorol sy’n defnyddio technegau gwahanol i gefnogi dysgwyr o wahanol oedrannau, gallu a ffocws”. CB

Mae Brenda, sydd wedi ymddeol ac sydd wedi bod yn aelod cyson ers 2016, yn dysgu technegau dyfrlliw – paentio tirluniau, portreadau, a dyma sut disgrifiodd y gwersi “Dosbarth cyfeillgar iawn – athrawes wych”. BJ   

[Chwith uchod: Astudiaethau cyfansoddiadol mewn cerflunwaith papur, lluniadu, dyfrlliw a colagraff gan Chris B. Canol: Brenda a Chris. Dde uchod. Portread dyfrlliw gan Brenda J]

Mae Ralph, sydd wedi mynychu’r dosbarth yn rheolaidd ers 2017, wedi bod yn gweithio ar gyfres o ddarluniau ar gyfer llyfr plant, sy’n cynnwys rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae Ralph yn dweud bod y dosbarth yn ‘rhydd o bwysedd’, a dyna pam ei fod yn dda i iechyd meddwl. Mae Ralph wedi canfod agweddau technegol, fel persbectif dysgu, sy’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ei ddarluniau.

Mae Pat, uchod ar y chwith, yn beintiwr profiadol sy’n dweud bod y dosbarthiadau yn cynnig cyfle i “Wella fy nghelf a mwynhad ym mhrosiectau aelodau eraill y dosbarth”. PH

Mae John, uchod ar y dde, wedi ymddeol, ac mae’n gweithio ar dechnegau dyfrlliw a phen a golchiad i wneud tirluniau a threfluniau, “Mae’r hyfforddiant a gawn gan Esther yn wych ac mae cymdeithasgarwch y grŵp yn gwneud pob sesiwn yn bleserus iawn”. JG

[Haul Duw Mecsicanaidd, cyfryngau cymysg, gan Bethan C.]

Mae Bethan wedi mynychu’r dosbarth celf ers cyn y cyfnod clo. Mae Bethan yn tynnu ar ystod o ysbrydoliaeth weledol, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar olygfa o’r cefnfor, gan gyfuno peintio a chyfryngau cymysg, i greu collage bywiog. Mae’n ysgrifennu ei bod yn hoffi “gwneud pethau i ddangos i bobl sut y dylem ofalu am ein byd”. Ychwanegodd “hyd yn oed os ydw i’n awtistig, ni all unrhyw beth fy rhwystro rhag dangos yr hyn y gallaf ei wneud”.

Dewiswyd darn brodwaith Janet a ysbrydolwyd gan y cyfnod clo ar gyfer y Wobr Turner Cyfoes Agored.

Mae Janet, sydd wedi graddio mewn celf, yn disgrifio’r dosbarth fel un sydd ag “Awyrgylch cyfeillgar, hamddenol lle gallwch arbrofi gyda syniadau, deunyddiau, a thechnegau, neu os yw’r awen celf ar goll, yna cael coffi, sgwrs a chwerthin! … Ychwanega “ Cyflwynais ddarn o waith celf, a gynhyrchwyd yn nosbarth Esther, i Wobr Turner Cyfoes Agored ym Margate. Fe’i derbyniwyd ac fe’i dangoswyd ochr yn ochr ag artistiaid adnabyddus fel Tracey Emin!”.  JF

C

Mae Sam, sy’n weithiwr gofal proffesiynol, wedi bod yn gweithio ar broses printio leino Gostyngol, gan ddewis delweddau o anifeiliaid i greu dyluniadau syfrdanol. “Rwy’n mwynhau amrywiaeth y gwaith gallwn ei wneud a’i gynhyrchu gan fod gennym ni i gyd gyfryngau gwahanol rydym yn mwynhau gweithio gyda nhw”. SW Mae Zia, myfyrwraig ran-amser, sy’n brydferth wraig (beautician), ac yn fam i ddau, yn disgrifio’r dosbarth fel “Mae’n hwyl ac yn bleserus. Rwyf wrth fy modd gyda’r dosbarth yma. Does dim ots beth yw fy hwyliau pan rwy’n cyrraedd y dosbarth, rwyf bob amser yn gadael yn teimlo’n well! … Rwy’n gwneud pot planhigyn papier-mâché yn seiliedig ar siâp pen mochyn daear. Rwyf mor hapus fy mod wedi canfod y cwrs, gyda chyd myfyrwyr hyfryd ac athrawes wych”. 

Hoffem longyfarch ein holl ddysgwyr ar eu gwaith gwych! Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau, cliciwch yma: www.adultlearning.wales/cy/cyrsiau-cymunedol/?subject=all

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.