Back to Listing

Cymerodd dysgwyr ein cyrsiau ‘Celf er Lles’ yn Aberystwyth a’r Drenewydd ran yn ddiweddar yn arddangosfa MOMA “Round Boxes in a Square Peg” (Blychau Crwn mewn Peg Sgwâr)!

Cymerodd dysgwyr ein cyrsiau ‘Celf er Lles’ yn Aberystwyth a’r Drenewydd ran mewn arddangosfa grŵp allanol a drefnwyd gan yr artist/therapydd celf a thiwtor Addysg Oedolion Cymru, Helen Ingham. Gwahoddwyd Helen gan MOMA Machynlleth (Amgueddfa Celf Fodern) i ddod ag artistiaid Machynlleth sy’n defnyddio creu celf i archwilio, mynegi neu gefnogi eu hiechyd meddwl at ei gilydd ar gyfer sioe grŵp. Cynhaliwyd yr arddangosfa o’r enw “Blychau Crwn mewn Peg Sgwâr” rhwng 23 Hydref a 4 Tachwedd 2023. Rhannodd rhai o ddysgwyr Helen eu profiadau gyda ni;


“Ymunais gyda’r cwrs i ddatblygu creadigrwydd a dychymyg. Mwynheais arbrofi gyda gwahanol dechnegau nad oeddwn yn gwybod amdanynt o’r blaen; roedd yn fodd i agor fy llygaid. Rwyf wedi cael cyfle i gymdeithasu ac i rannu fy ngwaith gydag eraill. Rhoddodd rhywbeth i mi y teimlwn fy mod wir eisiau ei wneud, gan roi hwb i’r holl broses greadigol nad oedd yna cyn mynychu’r cyrsiau. Celf yw’r prif beth yn fy mywyd nawr. Roedd cymryd rhan yn arddangosfa MOMA yn golygu llawer i mi; cyfle i ddangos fy ngwaith yn fy nhref enedigol. Rwy’n bwriadu parhau i greu celf, a gobeithio arddangos mwy.” Gina Roberts


“Ymunais gyda fy nghwrs celf cyntaf gydag Addysg Oedolion Cymru, oherwydd roeddwn eisiau dysgu sut i dynnu llun. Ers hynny, rwyf wedi dysgu am argraffu, collage ac arbrofi. Mae’r cyrsiau hefyd wedi fy ngalluogi i ddod i adnabod pobl eraill a chael hwyl. Mae wedi fy helpu i ehangu fy nghreadigrwydd. Rwyf nawr yn bwriadu gwneud mwy o waith celf gartref dros y gaeaf.” Anne Hooper



“Ymunais gyda’r cwrs i gael fy ‘mojo’ creadigol yn ôl, oherwydd ei fod wedi mynd yn gyfan gwbl. Rwyf wedi mwynhau dysgu gwahanol dechnegau, cyfryngau cymysg ac arbrofi. Cymdeithasu yw’r ffactor ychwanegol cefais o fynychu’r cwrs, gan nad wyf yn cymdeithasu unrhyw amser arall. Mae’r profiad wedi fy helpu i ddechrau gwneud celf gartref eto. Dwi’n methu aros i wneud y cwrs nesaf! Roedd cymryd rhan yn yr arddangosfa wir wedi fy nychryn! Ond fe roddodd ymdeimlad o gyflawniad i mi, ac mae’n rhywbeth nad oeddwn erioed wedi’i wneud o’r blaen.” Sue Mahoney

Dywed y tiwtor, Helen Ingham “Gall arddangos eich gwaith celf mewn man cyhoeddus fod yn broses o ddatgelu, yn enwedig am y tro cyntaf. Roedd bod yn rhan o’r broses penderfynu a chael mewnbwn i bob agwedd ar yr arddangosfa, o ddethol gwaith, fframio, creu datganiadau personol, teitlau, a phrisio gwaith yn brofiad dysgu cyfoethog i’r holl gyfranogwyr. Mae wedi bod yn bleser gweld y 3 dysgwr yn magu hyder gyda’u gwaith celf ynghyd a’u hunan hyder.”

Hoffem longyfarch ein holl ddysgwyr am gwblhau eu cyrsiau ac arddangos yn MOMA! Edrychwn ymlaen at weld eich gwaith celf yn fuan a dymunwn y gorau i chi yn eich astudiaethau yn y dyfodol!

Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau Celf a Chrefft, cliciwch yma.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.