Yn ddiweddar, cymerodd Tîm Rhanbarthol De-orllewin a’r Canolbarth Addysg Oedolion Cymru ran mewn digwyddiad ymgysylltu yng Ngweithdy Dove ym Manwen, mewn cydweithrediad gyda Phartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Powys-CNPT. Dangosodd y digwyddiad ystod o gyrsiau presennol y mae’r tri darparwr cyflwyno yn eu cynnig yng Nghanolfan Dove, gan hysbysu pawb am y cyfleoedd dysgu sydd i ddod. Mynychwyd y digwyddiad yn dda, gyda llawer o ymwelwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau blasu a gynlluniwyd i roi profiad ymarferol o’r hyn a gynigir gan y cyrsiau.
Cynhaliodd tri o diwtoriaid Addysg Oedolion Cymru amrywiaeth o weithgareddau diddorol drwy gydol y dydd. Cynhaliodd Rhys Clement sesiynau blasu pyrograffeg, gan ganiatáu i gyfranogwyr greu dyluniadau cymhleth trwy losgi patrymau i bren. Arweiniodd Joanne Baitup sesiynau blasu digidol, gan gynnig rhagolwg am ei chwrs Tacluso a Gwerthu Ar-lein sydd wedi ei drefnu ar gyfer Gweithdy Dove, tra bod June Milne wedi dangos sgiliau brodwaith a gwniadwaith, gyda chyfranogwyr yn rhoi cynnig ar bwytho croes ar fagiau Tote AOC, i’w cymryd adref a’u rhannu gyda ffrindiau a theulu.
Roedd y digwyddiad yn hynod o lwyddiannus, gyda llawer o’r mynychwyr yn gofyn am wybodaeth ac yn cofrestru ar gyfer cyrsiau’n gysylltiedig gyda’r sesiynau blasu. Croesawodd Lianne Byrne, Rheolwr Gweithdy’r Dove, yr ymwelwyr gan dynnu sylw at y cyfleoedd dysgu sydd ar gael yn y gweithdy. Cefnogwyd y digwyddiad ymhellach gan staff y caffi, a ddarparodd luniaeth drwy gydol y dydd gyda chynhesrwydd a gwasanaethgarwch, gan helpu i greu awyrgylch groesawgar a phleserus i bawb a fynychodd.
Dywedodd Lianne:
“Roedd y digwyddiad yng Ngweithdy DOVE ar ddydd Mawrth 23 Medi, yn llwyddiant ysgubol ac yn tynnu sylw at yr angen parhaus i ddarparu cyfleoedd dysgu i oedolion yn y gymuned. Mae Addysg Oedolion Cymru yn rhan annatod o’r ddarpariaeth honno yma yn DOVE. Fel sefydliad, hoffem ddiolch i Addysg Oedolion Cymru am ddarparu cyrsiau o ansawdd uchel yn gyson i’n dysgwyr, am wrando ar yr hyn sydd ei angen ar ein dysgwyr, ac am ymateb yn gyflym ac yn briodol. Edrychwn ymlaen at ein partneriaeth barhaus ac rydym yn frwdfrydig am ddatblygiadau yn y dyfodol rhwng ein sefydliadau.”
Cefnogwyd y digwyddiad gan y Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm Julie Isaac-Evans ac Alex Lloyd y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, drwy iddynt gynorthwyo gyda’r gosod i fyny, ymgysylltu gyda chyfranogwyr, a thrafod cyfleoedd dysgu AOC yng Ngweithdy Dove. Cofnodwyd y diwrnod gyda ffotograffau gan Alex hefyd.
Rhannodd y cyfranogwyr eu profiadau o’r diwrnod:
“Rwyf mor gyffrous am y sesiwn grefftau ar 7fed Hydref. Mae gen i beiriant gwnïo ers tro ond dydw i erioed wedi teimlo’n hyderus yn ei ddefnyddio, a ni allaf aros i ddechrau creu fy nyluniadau fy hun gartref.”
Dywedodd gŵr a gwraig a gymerodd ran yn y sesiwn blasu pyrograffeg:
“Roeddem wrth ein bodd gyda’n profiad, a ni allwn aros i ddechrau’r cwrs yng Ngweithdy Dove.”
Dyma sylwadau un o’r mynychwyr am y sesiwn sgiliau digidol:
“Rwy’n edrych ymlaen at glirio a thacluso fy nghartref mewn pryd ar gyfer y Nadolig gyda chwrs Joanne sydd i ddod yng Ngweithdy Dove ar werthu eitemau diangen ar-lein.”
Atgyfnerthodd y digwyddiad ymgysylltu’r bartneriaeth gref sydd rhwng Addysg Oedolion Cymru a Gweithdy Dove, gan amlygu’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael i bawb. Edrycha Addysg Oedolion Cymru ymlaen at barhau i weithio gyda Gweithdy Dove i gefnogi dysgu gydol oes yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan ddiolch i bawb a fynychodd, tîm Gweithdy Dove am gynnal y digwyddiad, a phartneriaid Dysgu Cymunedol i Oedolion y buom yn cydweithio gyda nhw er mwyn gwneud y digwyddiad yn llwyddiant.





















