
Diogelu’r Gorffennol, Llunio’r Dyfodol: Treftadaeth a Diwylliant Cymru yn Addysg Oedolion Cymru
Drwy gydol blwyddyn academaidd 2025/26, mae tîm Addysg Oedolion Cymru (AOC) y De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi cyflwyno ystod gynhwysfawr o gyrsiau a gynlluniwyd i bontio’r bwlch rhwng hanes hynafol a hunaniaeth Gymreig fodern. Yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, mae dysgwyr o Gastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phowys, ac ar draws y wlad wedi ymgysylltu gyda’r mudiadau archaeoleg, ieithyddol a gwleidyddol sy’n diffinio Cymru fel cenedl heddiw.
Gwreiddiau Hynafol a Chysylltiadau Byd-eang
O dan arweiniad arbenigol Dr. Ralph Haeussler, mae dysgwyr wedi ymchwilio i hanes dwfn tirwedd Cymru. Mae cyrsiau Dr Haeussler yn cysylltu cyd-destunau byd-eang, gan gynnwys yr Ymerodraeth Rufeinig a’r byd Celtaidd, yn uniongyrchol gyda thraddodiadau lleol.
Mae ei gyrsiau’n cynnwys:
- Astudiaethau Iaith Lladin:
Galluogodd y lefelau Cyflwyniad a Chanolradd i’r dysgwyr ddadgodio arysgrifau Rhufeinig a siarteri Cymreig canoloesol, gan amlygu sut mae Lladin yn parhau i fod yn rhan annatod o’r iaith Gymraeg fodern.
- Bydoedd Cyn hanesyddol a Cheltaidd:
O Ogofâu i Deyrnasoedd i Fywyd yn y Byd Celtaidd, mae’r cyrsiau hyn yn archwilio esblygiad cymdeithas o gelf ogofâu Paleolithig i wybodaeth amaethyddol a thechnegol gymhleth poblogaethau Celtaidd eu hiaith o Gymru i Gâl.
Protest, Gwleidyddiaeth, a Gwrthsafiad Poblogaidd
Yng Nghastell-nedd Port Talbot a thu hwnt, mae hanes actifiaeth Gymreig wedi dod yn fyw. Mae’r dosbarthiadau hyn yn annog dysgwyr i fyfyrio ar y ffigurau a’r mudiadau a luniodd y gymdeithas fodern.
- Hanes Protest:
Dan arweiniad y tiwtor Catherine Davies yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, roedd y cwrs yn caniatáu i ddysgwyr ymgysylltu â themâu newid cymdeithasol yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Archwiliodd y dysgwyr amserlen o wrthsafiad gan gynnwys Terfysgoedd Rebecca, y Swffragetiaid, sefydlu S4C, a Streic y Glowyr, gan orffen gyda mudiadau cyfoes fel Bywydau Du o Bwys yng Nghymru.
- Mytholeg a Llên Gwerin Cymru; Cymru: Gwleidyddiaeth a Phrotestiadau yn yr Ugeinfed Ganrif, Gwrthryfelwyr a Gwrthsafiad – Hanes Gwrthryfeloedd Poblogaidd yng Nghymru, a Hanes yr Iaith Gymraeg:
Ehangodd y tiwtor James Berry gyrhaeddiad y cyrsiau hyn i ddysgwyr ledled Cymru trwy eu cyflwyno ar-lein. Archwiliodd pob cwrs agwedd wahanol ar dreftadaeth Cymru, gan gynnig cyfle i ddysgwyr archwilio pynciau yn amrywio o fythau a chwedlau traddodiadol i fudiadau gwleidyddol modern a datblygiad yr iaith Gymraeg. Mae llawer o’r naratifau traddodiadol hyn yn parhau i fod yn ganolog i hunaniaeth ddiwylliannol Cymru heddiw.
Effaith a Chyfranogiad
Mae darpariaeth 2025/26 gan Addysg Oedolion Cymru wedi dangos bod hanes yn rym byw, gweladwy a dylanwadol yng Nghymru sy’n dal i lunio’r dirwedd a’r diwylliant yn yr Unfed Ganrif ar Hugain. Drwy gymryd rhan yn y cyrsiau hyn, mae dysgwyr wedi ennill:
- Cynyddu Hyder: Yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, lle’r oedd amgylcheddau cefnogol yn annog dadl a thrafodaeth weithredol.
- Mewnwelediad Ieithyddol: Dealltwriaeth ddyfnach o sut mae Lladin a Chymraeg hanesyddol wedi dylanwadu ar yr iaith fodern.
- Cysylltiad Cymunedol: Boed drwy dwf mewn canolfannau lleol fel Pontardawe neu ystafelloedd dosbarth digidol sy’n cysylltu rhanbarthau pell – oherwydd sgyrsiau sy’n hybu pobl eraill i ymuno, mae’r cyrsiau hyn wedi meithrin ymdeimlad gwirioneddol o rannu treftadaeth.
Drwy ystod o ddarpariaeth ddwyieithog ac ar-lein yn y De-orllewin a’r Canolbarth, mae Addysg Oedolion Cymru yn parhau i wneud Diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i’w dysgwyr. Drwy fyfyrio ar y gorffennol sydd wedi llunio tirwedd Cymru, mae ein dysgwyr yn ennill mwy na ffeithiau hanesyddol yn unig: maent yn datblygu cysylltiad cryfach gyda diwylliant byw Cymru a’r offer i ymgysylltu’n hyderus gyda’i ddyfodol.
Archwiliwch ein Dosbarthiadau Hanes Cymru a Threftadaeth



















