Back to Listing

Dyma gychwyn da i’ch paratoadau Nadoligaidd yn Ffair Nadolig Hwb Dysgu Port Talbot

Ar ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, bydd Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ ac Addysg Oedolion Cymru yn cynnal Ffair Grefftau Nadolig yn Hwb Dysgu Port Talbot, Gweithdai Heol Addison, Port Talbot.

Thema Nadoligaidd fydd i’r digwyddiad gyda 12 o grefftwyr lleol, llawer ohonynt o Bort Talbot a’r cyffiniau, yn gwerthu crefftau ac anrhegion: yn cynnig eitemau perffaith i lenwi hosanau a syniadau am anrhegion unigryw ar gyfer pob oed a chwaeth. O botiau planhigion pren wedi’u gwneud gyda llaw, i emwaith a cholur, i grefftau wedi’u hysgythru gyda laser – bydd digon o gyfleoedd i ddod o hyd i anrheg unigryw ar gyfer anwylyd neu ffrind. Cadarnhawyd bydd y canlynol gyda stondin yn y Ffair Nadolig:

Gwaith Saer i Bawb

Maria Parry Jones

Delyth Davies

Crefftau LAS

Main Street Cosmetics’

Rachel Halstead

Busy Bean’ gan Irine

Mandy Barrett

Angie a Kitty

Heather White

Gofal Croen ‘Helvetia

Fel arfer yn gweithredu fel hwb dysgu a gweithdy a ddefnyddir gan y Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ ac Addysg Oedolion Cymru, bydd Gweithdai Heol Addison yn trawsnewid yn brofiad siopa unigryw i gynnal y ffair Nadoligaidd. Bydd ymwelwyr i’r ffair yn cael cyfle i ennill basged o anrhegion, a roddwyd yn garedig gan y stondinwyr. Bydd yr holl arian a godir o’r raffl yn mynd i gefnogi’r Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’. Bydd lluniaeth a byrbrydau ar gael i’w prynu ar y diwrnod hefyd.

Dywedodd Beth John, Rheolwr Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru ardal y De-orllewin a’r Canolbarth:

“Rydym wrth ein bodd bod y digwyddiad unigryw hwn yn dod ag aelodau gwerthfawr ein Cangen a’r Sefydliad ynghyd ar adeg mor arbennig o’r flwyddyn. Mae gan y Gangen ac AOC hanes cadarn, sefydledig o weithio mewn partneriaeth agos a chynhyrchiol, ac ein gobaith yw bydd y digwyddiad yn dod yn un sefydlog yn y calendr Rhanbarthol a Sefydliadol, am flynyddoedd i ddod. Mae ymgysylltu gyda chymuned leol Port Talbot yn nodwedd hollbwysig o waith y Gangen ac AOC yn yr ardal, ac edrychwn ymlaen at groesawu ein dysgwyr, staff, partneriaid ac aelodau’r cyhoedd i ddiwrnod Nadoligaidd llawn hwyl. ”

Bydd y Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ a Ffair Nadolig Addysg Oedolion Cymru ar agor rhwng 10.00 a 16.00 dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023 yn Unedau 10 ac 11, Gweithdai Heol Addison, Port Talbot SA12 6HZ. Mae’n gyfle gwych i fynd i ysbryd yr ŵyl a gwneud eich siopa Nadolig wrth gefnogi busnesau lleol. Mae mynediad i’r Ffair Nadolig am ddim. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch gydag Alex Lloyd ar 02992 746695 neu anfon e-bost i alex.lloyd@adultlearning.wales

 



Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.