
Grymuso Cymunedau Trwy Rifau: Mae Grŵp Colegau NPTC Yn Dathlu Effaith y Rhaglen Mathemateg a Rhifedd, Lluosi
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o ddathlu llwyddiant trawsnewidiol ei raglen Mathemateg a Rhifedd, Lluosi – menter sy’n gwella bywydau a chymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU, mae’r rhaglen Lluosi yn cynnig cyrsiau mathemateg a rhifedd am ddim ar gyfer oedolion a’u teuluoedd, gan eu helpu i adeiladu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, cyflogaeth, annibyniaeth ariannol a dysgu gydol oes. Yn addas i unrhyw un dros 19 oed nad oes ganddo TGAU mewn Mathemateg, mae’r rhaglen yn agored, yn gynhwysol ac yn darparu buddion mesuradwy ar draws y fro.
Mae tri chwrs ar gael fel rhan o’r rhaglen:
- Numeracy Matters:Yn addas ar gyfer cyflogwyr sydd eisiau hyfforddiant rhifedd ar gyfer eu gweithwyr.
- Numeracy at Home:Yn addas ar gyfer plant a theuluoedd sydd eisiau gwella eu sgiliau rhifyddeg sylfaenol a mathemateg bob dydd.
- Numeracy for Success:Yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno ailddechrau addysg neu uwchsgilio i hybu eu gyrfaoedd
Cynhelir y cyrsiau hyblyg hyn mewn lleoliadau hygyrch – yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, ysgolion, clybiau chwaraeon, ar safle’r Coleg a hyd yn oed mewn rhai gweithleoedd – gan ddefnyddio cymysgedd o ddarpariaeth wyneb yn wyneb, hybrid ac ar-lein. Mae cyrsiau yn addas i bob lefel, o sesiynau blasu i lwybrau i ddechreuwyr a’r rheiny sydd am wella, gan helpu dysgwyr i symud ymlaen ar eu cyflymdra eu hun, wrth weithio tuag at gymwysterau a adnabyddir.
Mae un stori lwyddiant ysgubol yn dod o’r cwrs Numeracy at Home a gynhelir yn Sandfields, Port Talbot. Ymhlith y grŵp o ddysgwyr ymrwymedig, mae Elizabeth Dumphy, Ann Williams, ac Anita Hanney – ac roedd pob un ohonynt wedi’u recriwtio trwy gwrs crefft lleol ac yn awyddus i wella eu sgiliau mathemateg i’w defnyddio bob dydd a chefnogi aelodau ifancach eu teuluoedd.
Yn dystiolaeth and yw oedran yn rhwystr i ddysgu, yn 87 oed, rhannodd Anita Hanney effaith ddwys y cwrs ar ei bywyd:
“Dwi wir yn mwynhau Mathemateg Lluosi. Dwi’n 87 oed ac wedi gadel yr ysgol yn 15 oed. Fe hoffwn i wir wedi cael y cyfleoedd sydd gan blant heddiw, felly dyma gyfle nad oedd modd i fi ei golli. Mae’n hwylus ond yn anodd hefyd ac yn cynnig llawer o foddhad. Mae o gymorth i fi mewn nifer o ffyrdd – cwmni, cadw fy meddwl yn actif ac yn arafu dementia gobeithio. Dwi hefyd yn hynod o falch o’r ddwy dystysgrif sydd gen i. Mae gen i ddau or-ŵyr, Harlow 9 oed a Rex 11 oed, ac maen nhw’n falch fy mod i’n gallu gwneud mathemateg a’u helpu gyda’u gwaith cartref.”

Adlewyrchodd Cydlynydd Cwrs Lluosi Grŵp Colegau NPTC, Sophie Picton:
“Mae profiad Anita yn enghraifft gadarn o fuddion ehangach addysg i oedolion. Mae ei hanes yn atseinio â diddordeb cynyddol Llywodraeth Cymru mewn presgripsiynu cymdeithasol, gan ddangos sut y gall mentrau addysgol fel Lluosi gefnogi llesiant meddwl, delio ag ynysu a chryfhau cysylltiadau pontio’r cenedlaethau.”
Canmolodd y darlithydd cwrs Martina Syrovatkova ymrwymiad y dysgwyr:
“Dwi wrth fy modd i rannu’r cynnydd ffantastig y mae’r dysgwyr hyn wedi ei wneud yn eu sesiynau sgiliau rhifedd. Ers iddyn nhw ddechrau’r cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, maen eu sgiliau mathemateg wedi gwella’n anhygoel ac mae eu hyder wedi gwella hefyd. Dwi mor falch ohonyn nhw! Yn sicr, mae eu hymrwymiad wedi bod yn werth chweil.”

Mae’r rhaglen Mathemateg a Rhifedd Lluosi yn enghraifft ddisglair o sut y gall mentrau addysgol wedi’u targedu roi sgiliau bywyd allweddol i unigolion, cryfhau teuluoedd a chodi ysbryd cymunedau.
Wedi cael eich ysbrydoli i ail-afael ym myd dysgu? Cliciwch ar y botwm isod i gael mwy o wybodaeth am ein Rhaglen Lluosi yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Capsiwn Llun Nodwedd: Dysgwyr Anita Hanney (chwith) ac Ann Williams (dde)

















