Back to Listing

Mae aelodau ein Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ o ranbarth De Orllewin a Chanolbarth Cymru wedi mynychu Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Ar ddydd Llun 29 Tachwedd, fe wnaeth aelodau ein cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ o’n Hwb Dysgu ym Mhort Talbot fynychu Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ger Llanfair ym Muallt, ar ymweliad ar y cyd â’n dysgwyr ESOL o Bowys, sy’n hanu o bob cwr o’r byd – Gwlad Pwyl, yr Eidal, Lais, Siapan, Irac a Syria, i enwi ond ychydig o’r gwledydd – ac i rannu sgyrsiau a straeon am fyw a gweithio yng Nghanolbarth Cymru, yng nghanol cefn gwlad hyfryd Sir Faesyfed. Mae llwyddo i integreiddio i gymdeithas Cymru a’r DU yn allweddol i ddysgwyr ESOL, oherwydd mae’n caniatáu iddynt wneud cyfraniad gweithgar at y cymunedau ble maent yn byw ac yn gweithio, ac roedd aelodau’r Gangen yn awyddus i drafod pa mor wahanol yw sir fwy trefol ac arfordirol Castell-nedd Port Talbot, o gymharu â natur wledig Powys, ac i ddysgu rhagor am fywyd mewn gwledydd eraill.

Yr ymweliad hwn yw’r cyntaf o blith nifer o fentrau newydd lle bydd dysgwyr o bob cwr o ranbarth y De Orllewin a’r Canolbarth yn cydweithio’n agosach â Changen ‘Gwaith Saer i Bawb’, gan gryfhau perthynas y Sefydliad â’i Fudiad Gwirfoddol. Mae Derek Edwards, Cadeirydd Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ a thiwtor gwirfoddol, yn awyddus i groesawu dysgwyr Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales i Hwb Dysgu Port Talbot, er mwyn hwyluso amrywiaeth o weithdai gwaith saer a gwaith coed. Gweithdy yw’r fenter gyntaf, a chaiff ei redeg yn y Flwyddyn Newydd, gan ddod i ben ychydig cyn Dydd Gŵyl Ddewi. Enw’r Gweithdy yw ‘Arwyddluniau Cenedlaethol Cymru – Cennin Pedr’. Bydd Derek yn dysgu aelodau’r Gangen a dysgwyr ESOL o Abertawe sut i gerfio a chreu Cennin Pedr o goed, a sut i’w lliwio’n effeithiol. Mae testun y Gweithdy wedi cael ei ddewis yn ofalus i gefnogi ymrwymiad y Sefydliad i’r Gymraeg a’r Dimensiwn Cymreig, sy’n rhan allweddol o’r cwricwlwm; mae’r Gangen yn frwdfrydig iawn ynghylch hyn hefyd.

Dywed Derek, a fynychodd yr ymweliad â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru: “Cafodd pawb ddiwrnod hyfryd. Roedd hi’n wych i’r Gangen gael cwrdd â dysgwyr o bob cwr o’r byd, ac rydym ni fel Cangen yn falch iawn i fod yn rhan o’r mentrau newydd a wnaiff sicrhau fod perthynas y Gangen a’r Sefydliad yn un agosach fyth. Cafodd holl aelodau’r Gangen ddiwrnod bendigedig – roedd hi’n wych gweld cymaint o wahanol arddangosfeydd, yn ogystal â chwrdd â phobl newydd. Cafwyd cyfle i wneud ffrindiau newydd, a rhannu profiadau y gwnawn ni eu cofio am amser maith – ffordd wych o orffen y tymor.”

 

Mae ein Cangen ‘Gwaith Saer i Bawb’ yn rhedeg yn Hwb Dysgu Port Talbot yn ystod y dydd ar Ddydd Llun, nosweithiau Mercher ac yn ystod y dydd ar Ddydd Iau. Mae gan y Gangen aelodaeth sefydledig gref (dros 35 aelod ar hyn o bryd), a bydd pawb yn dod ynghyd mewn amgylchedd gwaith anffurfiol i wneud amrywiaeth o brosiectau gwaith saer, gwaith coed, a cherfio coed. Os hoffech chi ddysgu rhagor am waith y Gangen, cysylltwch yn syth â Mr Derek Edwards neu Mr Jason Passmore, yn Hwb Dysgu Port Talbot, ar (01639) 894927.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Canghennau, cliciwch yma.

I weld rhagor o luniau o’r gwibdaith, cliciwch yma i droi at ein tudalen Facebook.

I ddysgu rhagor am ein dosbarthiadau ESOL, cliciwch yma.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.