Back to Listing

Mae ein dysgwr sgiliau gwaith saer David Bentley-Miller wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli!

Mae ein dysgwr David Bentley-Miller wedi gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn ei wersi gwaith saer yn Hwb Dysgu Port Talbot i greu gweithiau hardd a chreadigol a sefydlu busnes yn gwerthu ei ysgrifbinnau pren unigryw sydd wedi’u gwneud â llaw. Mae ei diwtor, ei dechnegydd a’i staff cymorth wedi gweld hyder David yn cynyddu wrth iddo ddatblygu ei sgiliau. . .

Mae ein technegydd Gwaith Saer Jason Passmore yn dweud wrthym pam ei fod wedi enwebu David ar gyfer Gwobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli!

Meddai Jason, “Mae David Bentley-Miller wedi bod yn aelod o’r Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’, sydd wedi’i leoli yn ‘Hwb Dysgu Port Talbot’ AOC, ers ychydig dros ddwy flynedd. Mae David yn Gyfreithiwr Eiriolwr gweithredol ac yn ddyn busnes lleol, sy’n mynychu sesiynau’r Gangen ar nos Fercher, dan arweiniad profiadol Derek Edward, Cadeirydd y Gangen a Thiwtor Gwirfoddol.

Gadawodd David yr ysgol yn 16 oed, heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, a dechreuodd ei fywyd gwaith fel Cwnstabl Gwirfoddol yr Heddlu. Un diwrnod, gwelodd David hysbyseb i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ac roedd wedi’i gyfareddu gan y cyfleoedd y gallai hyn eu cynnig.

Ar y pryd, nid oedd angen cymwysterau ysgol ar fyfyrwyr aeddfed o reidrwydd i gychwyn ar astudiaethau ôl-raddedig, a bu David yn llwyddiannus yn ei gais i astudio am radd israddedig yn y Gyfraith. Treuliwyd y tair blynedd ddilynol yn teithio o’i gartref yn Sir Benfro am 7:30am yn foreol i Brifysgol Abertawe, ac yn aros ymlaen ar ôl darlithoedd i astudio a gwneud defnydd o’r Llyfrgell tan yn hwyr bob nos. Talodd yr holl waith sylweddol, yr ymrwymiad a’r ymroddiad ar ei ganfed, a llwyddodd David i ennill ei radd yn y gyfraith a dechrau gweithio ym maes ymarfer cyfreithiol.

Disgrifia ei hun fel ‘workaholic’ a oedd yn gymorth i David yn ei yrfa newydd a heriol, ond dechreuodd yr oriau a’r teithio rheolaidd i Lundain fynd yn fwrn, ac ar ôl taith hir adref un noson, penderfynodd David fynd at y meddyg, a derbyniodd ddiagnosis o Anhwylder Deubegynol.  Rhoddodd y meddyg y cyngor canlynol i David; ‘o gofio bod eich ymennydd yn cael ei gadw’n brysur yn y gwaith, ceisiwch ddod o hyd i rywbeth i gadw eich dwylo’n brysur hefyd’. Felly chwiliodd David am syniadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac argymhellodd gwraig leol y Gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’.

Gyda’r teimladau naturiol o ofid ac anesmwythder wrth ymuno gyda grŵp newydd, ymwelodd David â ‘Hwb Dysgu Port Talbot’ AOC, ac ar ôl siarad gyda Derek Edwards, penderfynodd wneud ysgrifbin pren ar y noson gyntaf honno. Ychydig a sylweddolodd ar y pryd y byddai gwneud y hynny yn agor byd o bosibiliadau iddo, y tu allan i’w yrfa lwyddiannus yn y gyfraith.

Teimlodd David y cafodd groeso mawr i’r grŵp, a rhoddodd y tiwtor ac aelodau eraill y Gangen eu hamser yn garedig i arddangos technegau a chynnig cyngor. Yn fuan, roedd David yn cerfio ysgrifbinnau safonol, a dechreuodd roi’r rhain fel anrhegion i deulu, ffrindiau a chydweithwyr. Awgrymodd un o’i gyfeillion y dylai ystyried gwerthu’r ysgrifbinnau, cymaint oedd ansawdd y crefftwaith, a phlannwyd yr egin syniad hyn!

Yn y misoedd dilynol, arweiniodd llu o weithgarwch at gydweithio gyda dylunydd gwefannau, i greu https://wigandpens.com, a sefydlodd David ei fusnes ysgrifbinnau pren unigryw, gan brynu ei durn a’i offer ei hun, a dod o hyd i ddarnau nodedig o bren fel llafn gwthio awyren Mosgito o’r Ail Ryfel Byd a rhan o Dŷ’r Senedd yn y 1860au, er mwyn cerfio cyrff unigryw ac ystyrlon i’r ysgrifbinnau.

Bellach gyda dau fath o waith – gwneud ysgrifbinnau crefft a gweithio fel cyfreithiwr hunangyflogedig, siarad David yn gynnes am y gangen ‘Gwaith Saer i Bawb’, y mae’n ei disgrifio fel grŵp sy’n edrych ar ffyrdd o annog pobl i roi cynnig ar bethau newydd a datblygu sgiliau a photensial anweledig. Mae busnes David yn parhau i fynd o nerth i nerth, gydag archebion yn llifo i mewn o bob rhan o’r byd.”

 

Dywed David, “Rwy’n 51 oed ac yn dioddef gydag Anhwylder Deubegynol. Arferwn deimlo cywilydd mawr i gyfaddef hyn, yn enwedig gan fy mod yn gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol lle teimlwn y gallai cael ei ystyried yn wendid. Mae’r swydd yn feichus iawn ac yn llawn straen gyda llawer o blatiau’n ymdroelli ar yr un adeg.

Mae dod o hyd i’r dosbarth Gwaith Coed wedi bod yn fendith lwyr i mi, oherwydd ar wahân i ddysgu sgiliau hollol newydd, rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd diffuant lle mae pawb yn cael eu trin yr un fath, waeth beth fo’u cefndir a’u swydd. Roedd pob aelod o’r dosbarth wedi gwneud i mi deimlo bod croeso mawr i mi o’r eiliad cyntaf un. Ac roedd hyn yn gymorth mawr wrth i mi gymryd y cam hwn i’r anhysbys.

Ni ellid prynu’r caredigrwydd a’r amynedd a ddangoswyd i mi gan yr hyfforddwyr Derek Edwards a Jason Passmore am unrhyw arian. Os ydw i wedi cael wythnos wael gyda fy salwch, dwi’n ceisio meddwl am fy nosbarth gwaith coed nesaf a beth fyddaf yn ei wneud neu hyd yn oed mynd draw i weld wynebau cyfeillgar sydd yr un mor falch o fy ngweld. Mae hyn wedi fy helpu cymaint o weithiau. Mae’r hyfforddwyr am ryw reswm i’w gweld yn ‘ei deall hi’ ac yn sylweddoli pan fyddaf yn sâl, bod yna bethau y gallaf eu gwneud yn y dosbarth o hyd. Mae hynny’n fy ngwneud yn emosiynol.

Pan oeddwn yn Erlynydd y Goron yn delio â rhai materion eithaf anodd yn ystod y dydd, roedd hi mor therapiwtig ac angenrheidiol i allu mynd i’r dosbarth a diffodd straen a phwysau’r gyfraith, a fyddai’n aml yn fy ngwneud yn wael. Mae’r dosbarthiadau’n gweithredu fel fy falf-ddiogelu.

Yn amlwg, bron yn ddamweiniol, mae fy sgiliau wedi cael eu mireinio yn y dosbarth ac wedi troi’n fusnes hyfryd lle rwy’n cyflenwi ysgrifbinnau o ansawdd uchel ac unigryw ledled y byd. Fel ychydig o enghreifftiau, rydym wedi darparu ysgrifbin i Lysgennad Prydain i’r Aifft, staff Diplomyddol Prydain yn Iwerddon a hefyd wedi derbyn gorchmynion gan y farnwriaeth a bargyfreithwyr blaenllaw. Rwyf hefyd newydd gael fy nghomisiynu i wneud ysgrifbin i farnwr o Qatar sydd wedi addo ei ddefnyddio’n ddyddiol. Weithiau mae’n rhaid i mi eistedd yn ôl a phinsio fy hun fod hyn i gyd wedi dechrau pan es i chwilio am ddargyfeiriad ar gyfer cyfnodau o waeledd.

Rwyf bellach yn adnabyddus yn rhyngwladol am wneud ysgrifbinnau unigryw ac arbennig drwy ddefnyddio pren llafn gwthio Spitfire o’r Ail Ryfel Byd ac mae gennyf hefyd ysgrifbinnau a wnaed o waith adnewyddu yn Nhŷ’r Senedd yn 1860, i enwi ond dwy enghraifft. Er gwaethaf y cyfnod anodd presennol yn ariannol, mae pobl dal yn barod i dalu am gynnyrch o safon. Y gwir yw, hyd yn oed pe bai’n rhaid i mi wneud yr ysgrifbinnau hyn am ddim, mi fyddwn yn gwneud hynny. I mi, mae’r cyfan yn gymorth gyda fy ngwydnwch a fy lles meddyliol, ac am hynny mae gen i 100% i ddiolch i’r Dosbarthiadau. Maent wedi fy achub i.”

Hoffem longyfarch David ar weithio mor galed a dysgu’r sgiliau i greu gweithiau celf anhygoel! Mae ei ysgrifbinnau sydd wedi’u gwneud â llaw yn hardd! Gan ddymuno pob lwc i David yn y Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli!

Os hoffech ddarganfod mwy am ein Canghennau, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch matthew.jenkins@adultlearning.wales

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.