Back to Listing

Mynychodd ein staff a’n dysgwyr yr Ŵyl Lenyddiaeth enwocaf yn y byd!

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn falch iawn i gydweithio’n agos mewn partneriaeth gyda Gŵyl y Gelli 2022, ac yn arbennig o fod yn Noddwr Addysg swyddogol yr Ŵyl yn y flwyddyn gyntaf o weithredu mewn modd wyneb yn wyneb ers y Pandemig. Dechreuodd perthynas waith AOC|ALW gyda’r Ŵyl ym mis Awst 2021, gyda thrafodaethau ynghylch cynnwys dysgwyr yn yr Ŵyl, a sut y gellid cyflawni hyn yn llwyddiannus wrth gefnogi codi safonau llythrennedd oedolion drwy ymgysylltu â’r gair ysgrifenedig a’i fwynhau. Mae canlyniad misoedd lawer o drafodaethau a chyfarfodydd yn y cefndir, wedi arwain at ddiwrnod o weithgareddau pwrpasol, yn benodol ar gyfer ein grŵp dysgwyr SSIE (ESOL) o Bowys, Abertawe a Chaerdydd. Mae’n cynnwys presenoldeb mewn nifer o ddigwyddiadau’r Ŵyl, sesiynau ‘cwrdd â’r awduron’ a chyfarfodydd arwyddo llyfrau, a’r cyfle i fynychu, profi ac amsugno’r awyrgylch yn yr hyn y gellir dadlau yw’r Ŵyl Lenyddiaeth enwocaf yn y byd.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Aine Venables (Rheolwr Addysg yr Ŵyl) sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau llwyddiant yr Ymweliad, ac edrychwn ymlaen at barhau ein partneriaeth gyda’r Ŵyl yn y blynyddoedd i ddod, ac i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi’i sefydlu eleni.

Isod, mae adroddiad uniongyrchol o’r diwrnod, wedi’i ysgrifennu gan Janie Mitchell (Tiwtor SSIE (ESOL) ym Mhowys), ynghyd â 4 aelod arall o staff, oedd gyda’r dysgwyr ar y diwrnod o ddarganfod a rhyfeddu.

Mae Janie am rannu ei hargraff o’r diwrnod, “Daeth dysgwyr SSIE (ESOL) a WSOL o Gaerdydd, Abertawe a Llandrindod, gyda’u teuluoedd a’u tiwtoriaid, at ei gilydd am y tro cyntaf yn y ‘Tŷ Haf’ ynghanol y ddrysfa o bebyll mawr a llwybrau dan do yng Ngŵyl y Gelli. Yno i’n cyfarch roedd Aine, rheolwr addysg yr ŵyl, gyda phentyrrau o croissants a thocynnau ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a sgyrsiau, a gofod ‘VIP’ encilio cyfforddus, lle gallai dysgwyr ddod yn ôl iddo yn ystod y dydd, i amsugno’r dysgu a phrofiadau’r diwrnod. I’r rhan fwyaf o’r dysgwyr, dyma eu profiad cyntaf o fynychu gŵyl: crwydro o gwmpas, edrych ar stondinau, galw heibio i wylio artistiaid yn siarad ar lwyfan, cyfarfod a siarad gyda dieithriaid, eistedd ar fag ffa i fwyta cinio – rhyddid ac awyrgylch o gysylltiad ac ysbrydoliaeth.

Mynychodd llawer o’r dysgwyr a’u plant sgwrs ‘Hope on the Horizon’ gan yr awdures plant, Onjali Q Rauf.

“Rwy’n hoffi sut y dywedodd wrthym am geisio bod yn obeithiol nid yn anobeithiol,” meddai Dea, merch ifanc un o’r dysgwyr, oedd wedi dod gyda’i mam i Gymru o Albania. “Rwy’n hoffi sut y dywedodd y dylem gael empathi.”

Dywedodd un dysgwr oedd wedi dod fel ffoadur i Gymru pa mor anhygoel oedd hi i alw heibio i sgwrs oedd yn cael ei recordio gan ‘BBC Wales on the Arts today’. “Siaradodd dau awdur am eu llyfrau newydd, ond nid oeddynt yn medru datgelu gormod – oherwydd byddai’n difetha’r stori!”.

Dywedodd Zak, dysgwr traws a oedd wedi ysgrifennu newyddiaduraeth ar y gymuned LHDTC yng Ngogledd Affrica fod y digwyddiadau yn ysbrydoledig iawn. “Rwyf eisoes yn ysgrifennu erthyglau yn Arabeg ond (mae’r ŵyl) yn gwneud i mi eisiau ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, a fy mod eisiau eu cyhoeddi yma nawr.”

Derbyniodd pob mynychwr daleb i’w chyfnewid yn siop lyfrau enfawr yr ŵyl, lle’r oedd awduron yn llofnodi eu llyfrau. Gyda dewis mor eang roedd yn anodd hela pawb at y bws ar ddiwedd yr ymweliad. Roedd yn olygfa hyfryd gwylio pob plentyn a rhiant yn cydio mewn llyfr newydd a ddewiswyd ganddynt er mwyn datblygu eu sgiliau darllen ymhellach, ond hefyd fel cofrodd o ddiwrnod ysbrydoledig oedd wedi procio’r meddwl. Fel y dywedodd Aine, mae hon yn ŵyl o straeon – mae gennym ni gyd rhain ac rydym i gyd yn tyfu trwy wrando ar eraill’.”

Rydym wrth ein bodd bod ein dysgwyr a’n staff wedi cael y profiad o fynychu’r ŵyl!

I weld mwy o luniau o’r diwrnod, cliciwch yma.

I ddod o hyd i gwrs a dechrau dysgu gyda ni, cliciwch yma.

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Integreiddio Ceiswyr Lloches a Mudo’r Undeb Ewropeaidd. Yn sicrhau fod rheoli llifoedd mudo yn fwy effeithlon ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.