Yn ōl i'r Cyrsiau

Cwrs Byr Ysgrifennu Creadigol Lefel 2 (Noson Rhan Amser)

Ydych chi wrth eich bodd yn ysgrifennu? Awydd dod yn awdur proffesiynol, neu ddilyn cwrs sy’n caniatáu ichi ymarfer eich sgiliau ysgrifennu? Mae’r cyrsiau newydd a chyffrous hyn yn cynnig y cyfle unigryw hwnnw i chi. Byddwch yn astudio ac yn ymarfer ysgrifennu ar draws pob math a genre: ffuglen-stori fer; y nofel; sgriptio; ffeithiol: hunangofiant a barddoniaeth-pob prif ffurfiau. Byddwn hefyd yn eich cyflwyno i syniadau am sut i fynd ati i gyhoeddi eich gwaith ac yn gwahodd cyfres o awduron proffesiynol i ddod i siarad â chi am eu gwaith a’u profiadau fel ysgrifenwyr. Bydd y cwrs Lefel 2 yn rhedeg am 12 wythnos rhwng Medi a Rhagfyr, gydag opsiwn i barhau i’r cwrs Lefel 3 sy’n rhedeg rhwng Ionawr a Mawrth. Mae gan bawb stori i’w hadrodd boed hynny ar ffurf nofel, sgript neu gerdd! Y cwrs hwn yw eich cyfle i adrodd eich stori, yn real neu’n ddychmygol, a darganfod eich llais ysgrifennu a’r ffurf orau y gellir ei chlywed. Bydd y Cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd a gweithdai ysgrifennu cefnogol lle cewch gyfle i rannu eich gwaith a chael adborth gwerthfawr i’ch helpu i ddatblygu eich ysgrifennu. Fe’ch anogir i gadw dyddlyfr darllen ac ysgrifennu i fapio’ch datblygiad fel awdur.

Darparwyr Cyrsiau

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.