Technegau Cyfweld

Yn ystod y cwrs hwn bydd gennych ddealltwriaeth o sut y cynhelir cyfweliadau a sut y dylech berfformio mewn un. Byddwch yn adnabod y disgwyliadau. Byddwch yn gallu deall pwysigrwydd meddu ar sgiliau cyfweld.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i helpu’r dysgwr i adnabod yr hyn sydd ei angen i fynychu cyfweliad. Erbyn y diwedd byddwch yn gallu deall bod cyfweliadau yn helpu’r cyflogwr a’r gweithiwr i asesu eu cyfatebiaeth ar gyfer ei gilydd a nodi gwahanol fathau o gyfweliadau a’u dibenion.

Ymdrinnir â phynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys dod i adnabod gwahanol fathau o gyfweliadau, beth i’w wneud mewn cyfweliad, paratoi, ffeithiau diddorol a sawl cam sydd yn y broses gyfweld. Yn ogystal â sut i ateb cwestiynau sy’n seiliedig ar gymhwysedd, rhesymau pam nad yw pobl weithiau’n llwyddiannus ac yn ôl penaethiaid a gweithwyr.

Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd gennych y wybodaeth am sut y cynhelir cyfweliadau a beth sy’n arfer da mewn cyfweliad er mwyn llwyddo, gobeithio, i gael gwaith.

Erbyn diwedd y cwrs hwn: – Byddwch yn gallu cydnabod pwysigrwydd gwybod sut i gyflwyno’ch hun mewn cyfweliad. – Byddwch yn teimlo’n fwy hyderus wrth fynychu cyfweliad. – Byddwch yn dod i wybod beth i’w ddisgwyl mewn cyfweliad, hefyd i ofyn cwestiynau i’r cyfwelydd.

Darparwyr Cyrsiau

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.