TGAU Mathemateg (Rhan-Amser)

Mae’r cwrs TGAU Mathemateg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n dymuno gwella eu hyder a’u sgiliau mewn rhifedd ac ennill cymhwyster mewn TGAU Mathemateg, sy’n ofyniad sylfaenol ar gyfer llawer o yrfaoedd. Mae gan fyfyrwyr lawer o resymau dros ddilyn y cwrs hwn, gan gynnwys hyrwyddo eu haddysg, cyfleoedd cyflogaeth neu geisio cefnogi plant yn yr ysgol. Mae’r haen ganolradd a ddarperir yn y Coleg yn caniatáu i fyfyrwyr gyflawni gradd B TGAU, sydd bellach yn ofynnol ar gyfer llawer o raddau addysgu a nyrsio. Y prif bynciau a drafodir yn y cwrs hwn yw: -Rhif -Algebra a Graffiau – Siâp, Gofod, a Thrgonometreg -Trin a chyflwyno Data – Tebygolrwydd Mae’r cwrs yn gwrs blwyddyn sy’n cael ei gyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu gwahanol. Cynhelir y cwrs ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol: Coleg y Drenewydd Dydd Llun 6:00pm – 8.30pm Coleg Afan Dydd Llun 6.00pm – 8.30pm Coleg Pontardawe Dydd Mawrth 6.00pm – 8.30pm Coleg Castell-nedd Dydd Mercher 6.00pm – 8.30pm Coleg Bannau Brycheiniog Dydd Iau 6.00pm – 8.30pm Bydd y dosbarthiadau’n cychwyn yr wythnos sy’n dechrau 11 Medi 2023.

Darparwyr Cyrsiau

  • Grwp Colegau NPTC

    • Coleg Afan
    • Coleg Bannau Brycheiniog
    • Coleg Castell-nedd
    • Coleg Pontardawe
    • Coleg Y Drenewydd
    Ymweld ā'r darparwr hwn
Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.