Back to Listing

Cyrsiau newydd ‘Celf, Crefft a Thecstilau’ yn ein ‘Hwb Dysgu Port Talbot’!

Mae ein ‘Hwb Dysgu Port Talbot’ yn Ganolfan Ragoriaeth sefydledig ar gyfer darparu cyrsiau cerfio pren, gwaith coed a phyrograffeg. I ychwanegu at y gymysgedd yma, rydym wedi cyflwyno cyfres newydd o gyrsiau bob dydd Mercher, a gyflwynir yn yr Hwb. Os oes gennych ddiddordeb mewn ‘Gwaith Crefft’ neu heb roi cynnig arni o’r blaen, dewch draw i’n Hwb yng Ngweithdai Ffordd Addison, lle cewch groeso cynnes. Mae’n gyfle i wneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd yr hydref hwn!

Uwchgylchu: Celf a Chrefft
Bydd y cwrs yma yn canolbwyntio ar wneud rhywbeth newydd, o rywbeth hen a dieisiau. Trwy arddangosiad a thrafodaeth, byddwch yn darganfod beth ellir ei wneud gydag amrywiaeth o decstilau a deunyddiau a fyddai fel arall yn cael eu taflu. Dewch a hen lenni a dillad gyda chi a’u trawsnewid yn rhywbeth newydd!

Ffeltio Nodwydd
Bydd y cwrs yma yn canolbwyntio ar sut i ffeltio nodwydd fel crefft greadigol. Gan ddefnyddio arweiniad cam wrth gam gan y tiwtor, byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu amrywiaeth o eitemau, o gardiau Nadolig i addurniadau Nadolig 3 Dimensiwn wedi’u cerflunio – i gyd yn barod ar gyfer Nadolig 2023!

Eich tiwtor fydd Maria Parry-Jones

Dyddiau ac Amserau Cwrs:

Uwchgylchu: Celf a Chrefft: Dydd Mercher, 10.00am – 12.30pm

Ffeltio Nodwydd: Dydd Mercher,  1.00pm – 3.30pm

Cliciwch yma i weld mwy o luniau ar ein tudalen Facebook!

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Jason Passmore, jason.passmore@adultlearning.wales

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.