
Digwyddiad Cymunedol Am Ddim i Arddangos Cyfleoedd Dysgu Oedolion yng Ngweithdy Dove
Mae digwyddiad cymunedol am ddim i’w gynnal ddydd Mawrth 23 Medi yng Nghanolfan Gymunedol Banwen, gan gynnig diwrnod allan hwyliog a diddorol i drigolion lleol a theuluoedd gan dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd dysgu oedolion sydd ar gael drwy Weithdy Dove.
Yn rhedeg o 10am i 3pm, mae’r digwyddiad yn ymdrech gydweithredol rhwng Gweithdy Dove, Dysgu Oedolion Cymru, Dysgu Oedolion Powys Chastell-nedd Port Talbot a Grŵp Colegau NPTC. Ei nod yw arddangos yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael a rhoi cyfle i fynychwyr roi cynnig ar weithgareddau trwy sesiynau rhagflas ymarferol.
Bydd gweithgareddau ar y diwrnod yn cynnwys rhagflas mewn:
- Celf
- Pyrograffeg
- Sgiliau digidol
- Ffotograffiaeth
- Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Cerfio llwyau caru Cymreig
- Rhifedd a llythrennedd
Yn ogystal ag archwilio beth sydd ar gael i oedolion, anogir teuluoedd i ddod draw a mwynhau lluniaeth am ddim, fan hufen iâ, a gweithgareddau i blant gan gynnwys peintio wynebau.
Dywedodd Kathryn Dunstan, Pennaeth Cynorthwyol: Masnachol yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n ystyried dechrau hobi newydd, meithrin eu sgiliau, neu ddychwelyd i ddysgu. Mae rhywbeth i bawb, ac mae’n gyfle da i gwrdd â’r tiwtoriaid, gofyn cwestiynau, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd mewn lleoliad hamddenol a chroesawgar.”
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’w fynychu, ac nid oes angen archebu.

















