Yn ōl i'r Cyrsiau

Hanes Cymru – Streic y Glowyr – 1984

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i rannu eich profiadau o’r streic 40 mlynedd ers ei chychwyn, a byddwn yn adolygu’r sylw yn y cyfryngau ar y pryd.

Byddwn yn defnyddio ffynonellau amlgyfrwng i ddadansoddi a thrafod y digwyddiadau a’r hyn y maent yn ei olygu i ni heddiw.

Bydd y cwrs byr yma yn rhoi trosolwg o’r streic ddiwydiannol chwerw i amddiffyn y pyllau a’r cymunedau oedd yn dibynnu arnynt. Edrychir ar yr achosion, y prif ddigwyddiadau a’r cymeriadau, ynghyd a’r canlyniadau.

Canolbwyntir yn benodol ar ddigwyddiadau a phrofiadau’r glowyr yng Nghymoedd De Cymru, a’r menywod a fu’n ymladd ochr yn ochr gyda nhw o fewn cyd-destun y cymunedau ehangach.

Darparwyr Cyrsiau

Mae partneriaid yn cynnwys
Dod o hyd i Gwrs Copyright 2024 Adult Learning in the Community. All rights reserved.